Croeso i Clwb Y Bont

Ymunwch â Chlwb y Bont i gefnogi bywyd diwylliannol, cerddorol a Chymraeg De Cymru.

Eisiau llogi’r lleoliad?

Llogwch ein bar, ystafell gyfarfod a mannau adloniant hyblyg.

email: swyddogclwbybont@gmail.com

RSVP

Digwyddiadau i ddod a thocynnau

Mae croeso cynnes i unrhyw un yng Nghlwb y Bont, mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu clywed yn y lleoliad. 

Mae Clwb y Bont yn parhau i gynnal ethos ei sefydlwyr a byddwch yn dal i ddod o hyd i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau yma a gynhelir yn y Gymraeg a’r Saesneg, o hip-hop a barddoniaeth i fandiau roc, ffilmiau a nosweithiau cwis.


Mae ffefrynnau rheolaidd yn cynnwys jazz, blues a nosweithiau gwerin, ac mae’r Clwb hefyd yn cael ei ddefnyddio gan aelodau a grwpiau i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau.